
Dyma ni unwaith eto a Dinas Bangor yn cymeryd eu lle haeddiannol yn Ewrop. Llongyfarchiadau i’r hogia ar gêm gyfartal yn y Ffindir heno
Roedd dad yn chwarae’n gol i Fangor cyn rhyfel. Un da oedd o hefyd yn ol bob son. Yn y Lancashire Combination oddan nhw pryd hynny dwi’n meddwl. Ges i rhyw sbel bach efo Bangor reserves fy hun yn y saithdegau. Felly mae tim pel droed Bangor yn y gwaed a mae’r disgwyliadau’n uchel pan maent yn chwarae yn Ewrop.
Dwi’n dal i gofio’r gêm yn erbyn Napoli yn 1962. A wedyn i’r Eidal ac yn ol i Highbury am y play off. Dyna beth oedd camp i hogyn naw oed. Roedd y chwaraewyr yma i gyd yn arwyr i mi. Len, Iorys, Eddie Birch …ac yn y blaen. Dyna chi dîm.
Mae pethau wedi newid dipyn erbyn hyn wrth gwrs (heblaw am cyflwr cae Farrar Road) ond mae’n gret gweld yr hogia yn cymeryd eu lle yn Ewrop. Gobeithio fod Neville Powell yn atgoffa nhw o’r traddodiad hir cyn yr ail gymal yn Wrecsam yr wythnos nesaf er mwyn i ni fwynhau gemau fel Napoli ac Atletico Madrid unwaith eto.

