Croeso i’n blog oddiwrth y criw yn Pili Pala cyf. - rydym yn fawr obeithio byddwch yn ei fwynhau. Er gymaint yr hoffem sgrifennu y rhain i gyd yn Gymraeg mae’n debyg iawn mae’r “iaith fain” fydd iaith gyntaf y rhan fwyaf o’n darllenwyr felly ymddiheuriadau cyn dechrau am y nifer o “blogs” saesneg fydd yn ymddangos.
Welcome to our blog where we’ll attempt to inform and entertain you as we write about our everyday lives in Wales and share our thoughts on what we think is important (or not) in Wales today.
Mehefin 4, 2008 at 12:25 yh
Fel chi’n dweud, mae’n debyg bydd y nifer o fobl sy’n dod yma drwy eich gwefan yn ddi-Gymraeg os mai ymwelwyr o du allan i Gymru ydynt, ond hefyd mae’n werth cofio bod sawl miliwn blog Saeseng a dim ond rhyw gant o rhai Cymraeg, felly mae’r gystadleuaeth am ddarllenwyr yn llawer uwch yn y Saesneg.
Yn bersonol dwi’n meddwl bod yn werth cadw dau flog ar wahanon yn hytrach na defnyddio dwy iaith ar yr un blog – ond eto yn eich engrhaifft chi, byddai’n neis bod y Gymraeg yn weledol i ddangos i ddarpar ymwelwyr bod iaith frodorol unigryw ganddom.
Os ydych yn blogio’n Saeseng, holwch os cewch ychwanegu eich ffrwd (RSS) at Blogcymru.com, ac os yn Gymraeg at Blogiadur.com.
Fel awgrym o bethau i flogio amdanynt:
http://www.walescymru.com – awgrymiadau llefydd i ymweld yng Nghymru
Dwi’n ffan mawr o Qype.co.uk, ac yn cyfrannu adolygiadau ato fy hun.
Pan yn mynd i lefydd newydd, dwi’n hoffi chwilio am luniau o’r lle ar Flickr.com. Gallwch ddod o hyd i luniau trawiadol o Gymru arno, a’u defnyddio i ddenu pobl i Gymru. Cofiwch barchu hawlfraint pob llun, sydd i’w weld ar y gwaelod i’r dde o bob llun. Mae Flickr yn hyrwyddo trwyddedau Creative Commons ble annogir pobl i adael i eraill ddefnyddio eu lluniau yn ddi-dal ond gyda chydnabyddiaeth.
Beth sy’n dda am wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Flickr a Qype (a sawl un arall) yw eich bod yn gallu eu cyfunno nhw gyda eich blog – e.e. gallwch fod a gallery o luniau random o Flickr gyda’r ‘tag’ ‘Cymru’ yn ymddangos yn y golofn dde, neu’r 5 adolgiad diwethaf o lefydd yng Nghaerdydd oddi ar Qype. Efallai wedy byddai Qype yn fodlon rhestru eich blog chi wedyn ar eu gwefan nhw, a thrwy hynny denu cwsmeriaid – gan mai dyna yw bwriad y blog yn y pen draw dwi’n cymeryd.
Mehefin 12, 2008 at 10:29 yh
Rhys,
Diolch i chdi am dy sylwadau a syniadau.
Dwi’n dueddol i gytuno ynglyn a rhedeg dwy flog ar wahan – ond ar y funud amser yw’r broblem wrth ein bod yn brysur yn gweithio ar un o ddau o brosiectau eraill sydd gan Pili Pala ar y gweill i ddennu ymwelwyr i Gymru.
Dwi’n ymybodol iawn o WalesCymru.com ac o’r un farn a chdi (eto) am Qype – ond mwy am fod na griw da o bobl o’r Almaen, Awstria a’r Swisdir arno gan fod y farchnad ynna’n bwisyg i ni. Fydd gennym wefan Almaeneg i fyny mewn ychydig wythnosau fydd yn dipyn mwy na’r wefan yma sydd dim mwy na rhyw gerdyn busnes ar y we i’n cyflwynno. Y bwriad yw cael ein gwefannau i gyd yn amlieithog gan gynnwys Cymraeg wrth gwrs.
Denu cwsmeriad yw rhan o fwriad y blog heb os nac oni bai ond elfen arall bwysig yw i bersoneilio’r wefan fel bod ymwelwyr (i’r wefan) yn dod i nabod ychydig ar y bobl sy’n gweithio yma.
Gorffennaf 9, 2009 at 11:58 yb
Hello, just got here. Will you continue the blog? ‘Rwy’n Netty ar Qype. ‘Rwy’n byw ym Machynlleth ar hyn o bryd – ‘rwy wedi gwneud llawer o ymchwil yng Nghymru. Mae Juliana eisoes wedi ffeindio fi.
Hwyl fawr, Annette – a phob lwc gyda “Pili Pala”.